Byw yn Aberystwyth

.jpg)

Byw yn Aberystwyth
Mae Aberystwyth yn dref farchnad hanesyddol a chanddi olygfeydd bendigedig o Fae Ceredigion. Mae’n gartref i dros dair mil ar ddeg o bobl, yn ogystal ag wyth mil o fyfyrwyr.
Ond mae Aberystwyth yn gymaint mwy na thref glan môr. Yn ogystal â Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r castell, mae’r dref hon ar arfordir gorllewin Cymru yn gartref i Ganolfan y Celfyddydau, sy’n cael ei chydnabod am ei chyfraniad blaenllaw at y celfyddydau yng Nghymru. Mae ganddi raglen artistig eang, o ran cynhyrchu a chyflwyno, a chaiff ei chydnabod fel canolfan genedlaethol ar gyfer datblygu’r celfyddydau.
Mae prom trawiadol Aberystwyth yn boblogaidd ymhlith ymwelwyr a’r bobl leol fel ei gilydd, ac yn denu cerddwyr, loncwyr a seiclwyr – yn ogystal â’r rheini sydd eisiau ymlacio ger y môr.
Nid yw mynyddoedd y Cambria na Pharc Cenedlaethol Eryri ymhell, ac mae’r dref ar Lwybr Arfordir Cymru. Does ryfedd bod Aberystwyth yn agos at galonnau’r rheini sy’n mwynhau gweithgareddau awyr-agored megis seiclo, cerdded a marchogaeth, yma yng nghalon canolbarth Cymru. Mae’r môr nid yn unig yn boblogaidd ymhlith ymwelwyr ond hefyd yn denu nofwyr, morwyr a syrffwyr trwy gydol y flwyddyn.
Wrth gerdded y prom ar ei hyd, 2,000 o fetrau ohono, fe welwch amrywiaeth o olygfeydd a mannau cyfarwydd Aberystwyth. O’r harbwr a’r marina yn y de a Chraig Glais (neu Consti) i’r gogledd, gallwch fwynhau awel y môr a golygfa eang o Fae Ceredigion, lle gwelir yn aml ddolffiniaid a llamhidyddion.
Tai ac Ysgolion
I deuluoedd, mae gan Aberystwyth amrywiaeth o ysgolion cynradd a dwy ysgol uwchradd, heb anghofio’r ddarpariaeth yng Ngheredigion yn ehangach. Mae addysg ar gael i blant drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ac mae canlyniadau TGAU y ddwy ysgol uwchradd yn sylweddol uwch na’r cyfartaleddau cenedlaethol.
Mae’r farchnad dai leol yn hynod o iach, gan gynnig ystod dda o eiddo i’w rentu neu ei brynu. Ceir dewis ehangach o dai mwy i deuluoedd yn y pentrefi oddi allan i’r dref, ac mae gan lawer o’r cymunedau hyn eu siopau a’u hysgolion eu hunain, a chysylltiadau bws rheolaidd.
Diwylliant ac Adloniant
Gall Aberystwyth gynnig yr holl gyfleusterau y byddech yn disgwyl eu gweld mewn tref sy’n ffynnu – amrywiaeth eang o siopau ac archfarchnadoedd, marchnad ffermwyr arobryn, bwytai, bywyd nos bywiog a diwylliant caffis difyr. Mae Aberystwyth hefyd yn gymuned ddwyieithog ac mae nifer fawr o’r trigolion yn byw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma gymuned groesawgar sy’n cynnig ystod eang o ddigwyddiadau diwylliannol a gweithgareddau cymdeithasol.
Lleoliad
I’r rheini sy’n teithio yma o dramor, maes awyr rhyngwladol Birmingham yw’r un mwyaf cyfleus ar gyfer Aberystwyth. Mae meysydd awyr Llundain hefyd yn gymharol hygyrch ac yn cynnig dewis ehangach o hediadau a phrisiau. Mae maes awyr Caerdydd hefyd yn gyfleus os ydych yn bwriadu teithio ymlaen oddi yno mewn car.
Ceir gwasanaethau trên rheolaidd sy’n cysylltu’r dref ag Amwythig a Birmingham, yn ogystal â bysiau sy’n cysylltu Aberystwyth ag Amwythig a Birmingham i’r dwyrain a Chaerfyrddin, Abertawe a Chaerdydd i’r de. Ceir gwasanaeth bysiau dyddiol yn uniongyrchol i Lundain.
Wrth deithio mewn car, mae’r A487 yn cysylltu Aberystwyth â’r de a’r gogledd. Mae’r ffordd tua’r de yn dilyn yr arfordir ac yn cynnig golygfeydd rhyfeddol dros Fae Ceredigion, tra bod y môr yn cwrdd â’r mynydd i’r gogledd, â golygfeydd o’r arfordir a chopaon Eryri. O’r dwyrain, mae’r A44 yn plethu drwy fynyddoedd y Cambria.