Gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth
.jpg)
.jpg)
.jpg)
Gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth
Mae gan Brifysgol Aberystwyth gymuned o dros 2,000 o staff a 13,000 o fyfyrwyr israddedig, uwchraddedig, rhan-amser a myfyrwyr dysgu o bell o bedwar ban byd. Mae gennym hefyd dros 80,000 o gyn-fyfyrwyr sydd, ar y cyd, yn adnodd gwych i’r Brifysgol.
Ynghylch y Brifysgol
Sefydlwyd Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1872, a hi oedd prifysgol gyntaf Cymru. Yn ddiweddarach, daeth yn un o aelodau sefydlol Prifysgol Cymru yn 1894.
Mae gan Brifysgol Aberystwyth chwe Athrofa academaidd a gefnogir gan adrannau Gwasanaethau Proffesiynol.
Y drws nesaf i’r prif gampws mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, un o ddim ond chwe llyfrgell hawlfraint yn y DU, ac mae’n adnodd heb ei ail i fyfyrwyr a staff ymchwil.
Mae Prifysgol Aberystwyth yn darparu amgylchedd gwaith hardd, a gefnogir gan gampws a chymuned groesawgar. Mae’r buddion yn gynwysedig i staff o bob cefndir, gan gynnwys staff LGBT, staff ag anableddau, aelodau staff sy’n feichiog, rhieni a gofalwyr, yn ogystal â staff o bob rhyw, oedran, ethnigrwydd, cenedlaethau, credoau crefyddol, a statws priod neu mewn partneriaeth sifil.
Addysgu ac Ymchwil
Mae gan Brifysgol Aberystwyth broffil ymchwil cryf, gyda 95% o’r gweithgarwch ymchwil o safon a gydnabyddir yn rhyngwladol neu’n uwch, ac ymchwil sy’n arwain ar lefel fyd-eang (4*) ym mhob un o’r 17 uned asesu a gyflwynwyd (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014). At hynny, Prifysgol Aberystwyth a gyflwynodd y ganran uchaf o staff cymwys ar gyfer y FfRhY o blith prifysgolion Cymru.
Ymhlith y llwyddiannau amlycaf mae:
- Ansawdd ymchwil Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn y 10 Uchaf yn y DU ac ar y brig yng Nghymru
- Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yn y 10 Uchaf yn y DU o ran dwysedd ymchwil
- Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ar y brig yng Nghymru o ran ansawdd ymchwil ac yn y 10 Uchaf yn y DU o ran grym ymchwil
Buddsoddi yn y Dyfodol
Rydym yn buddsoddi dros £100 miliwn i wella ac ehangu ein cyfleusterau preswyl ac addysgu, sydd eisoes yn rhagorol. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â’n tîm wrth inni wneud y buddsoddiadau a ganlyn:
Preswylfeydd newydd gwerth £45 miliwn i fyfyrwyr yn Fferm Penglais, yn darparu llety o’r radd flaenaf i’n myfyrwyr, oll o fewn pellter cerdded i’n prif gampws.
Mae campws cangen Mauritius, a agorwyd fis Hydref 2015, yn darparu ein haddysg brifysgol uchel ei pharch o’r DU ar ynys hyfryd Mauritius, a’r addysg honno’n cael ei chyflwyno gan gyfuniad o staff academaidd lleol a rhyngwladol, gan gynnwys staff o Aberystwyth.
Campws Arloesi a Menter: mae Prifysgol Aberystwyth, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Chyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol, yn datblygu cyfleuster a fydd yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol er mwyn denu cyllid fel y gall ymchwilwyr a diwydiant gynnal ymchwil ar y cyd i hybu’r bio-economi.
Bywyd Newydd i’r Hen Goleg, lle rydym yn archwilio ailddatblygu cartref gwreiddiol y Brifysgol ar y prom.
Cyflogaeth
Dyma rai o’r buddiannau y mae gweithwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn eu mwynhau:
- Wythnos waith 36.5 awr
- 27 diwrnod o wyliau blynyddol, yn ogystal â gwyliau banc a dyddiau pan mae’r Brifysgol ar gau
- Cynlluniau pensiwn hael gyda chyfraniadau gan y cyflogwr
- Tâl sy’n codi’n gynyddrannol
- Arbedion treth ac yswiriant cenedlaethol ar dalebau gofal plant a’r cynllun Seiclo i’r Gwaith
- Cynllun buddiannau hyblyg, gan gynnwys y gallu i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol a gweithio’n hyblyg
- Disgownt ar aelodaeth y Ganolfan Chwaraeon
- Disgownt yn lleoliadau arlwyo’r Brifysgol
Dyma rai o lwyddiannau nodedig Prifysgol Aberystwyth:
- Ymhlith pedair prifysgol uchaf y DU a’r brifysgol orau yng Nghymru o ran boddhad myfyrwyr (Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2016)
- Un o’r 40 prifysgol orau yn y DU (tabl cynghrair prifysgolion y DU Times Higher Education)
- Y brifysgol fwyaf diogel yng Nghymru, ac un o’r deg uchaf yn y DU (Complete University Guide 2015)
- Gwobr Efydd Athena Swan, yn cydnabod arfer da o ran recriwtio, cadw a dyrchafu menywod mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Meddygaeth a Mathemateg
- Gwobr Arian y Safon Iechyd Corfforaethol
- Symbol dau dic
- Cydnabyddiaeth ar Fynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall
- Gwobr Effaith Werdd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr
- Sicrwydd Ansawdd gan ASA y DU